Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (33) |
Gwahoddodd y Llywydd y Cynulliad i sefyll am funud o dawelwch er cof am Gary Speed.
13.31
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
14.28
2. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb yn ysgrifenedig.
15.13
3. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd fod Peter Black a Mohammad Asghar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth. Caiff Peter Black a Mohammad Asghar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau a Menter yn y drefn honno.
16.04
4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
16.15
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Addysg Uwch
17.00
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
17.25
7. Dadl ar Ddiwygio’r PAC
NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru
yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r
PAC.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU i wrthwynebu ‘gwyrddio’ Colofn 1.
Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.
Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.
Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:00 ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2011